Mae mynediad at gwasanaethau’r Brifysgol trwy fewngofnodi Microsoft 365 yn annibynadwy10:30 Dydd Gwener 10 Tachwedd

Mae mynediad at gwasanaethau’r Brifysgol yn annibynadwy 10:30 Dydd Gwener 10 Tachwedd 2023. Mae problemau mynediad yn cael eu hachosi gan wall mewngofnodi sengl Microsoft (SSO) sydd wedi effeithio ar ddefnyddwyr Microsoft ledled y DU. Dylid ystyried y gwasanaethau hyn “annibynadwyl” nes y hysbysir yn wahanol. Yr ydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra ac yn diolch i chi am eich hamynedd.

Rhwydwaith campws Gogerddan wedi’i adfer ar wahan i Adeilad Stapledon 09:10 25/7/2023

Mae’r broblem a oedd yn effeithio ar rhwydwaith y campws wedi’i leoli yn Adeilad Stapledon ar Gampws Gogerddan. Mae cyfarpar newydd yn cael ei osod yn Adeilad Stapledon a bydd y rhwydwaith yn cael ei adfer yno cyn gynted â bod y gwaith wedi’i gwblhau. Yn y cyfamser dylid barhau i ystyried y rhwydwaith mewn perygl.

Amser segur AStRA, ABW, PURE a myadmin 16:00 heddiw, dydd Gwener 30ain Mehefin tan 12:00 dydd Llun 3ydd Gorffennaf

Ni fydd AStRA, ABW, PURE na myadmin ar gael o 16:00 heddiw, dydd Gwener 30ain Mehefin tan 12:00 dydd Llun 3ydd Gorffennaf. Ni fydd fersiwn cleient ABW na’r fersiwn hunan-wasanaeth ar-lein (abw.aber.ac.uk) ar gael yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â nifer o raglenni myadmin (myadmin.aber.ac.uk) megis CCE a Thaflenni Amser. Dylai pob defnyddiwr sicrhau bod yr holl daflenni amser cyflogau ar myadmin yn cael eu cwblhau cyn yr amser segur hwn, a bod unrhyw dasgau ABW sydd heb gael eu cwblhau gan gynnwys cymeradwyaeth gwyliau ac unrhyw geisiadau ar gyfer archebu prynu hefyd wedi’u cwblhau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Mae staff GG yn gweithio dros y penwythnos a byddant yn ymdrechu i adfer gwasanaethau cyn gynted â phosibl. Fe fyddwn yn cyhoeddi pan fydd y gwasnaethau ar gael eto ar ein gwasanaeth Twitter @aberuni_is ac ein blog diweddariadau Gwasanaethau GG.