Mynediad PA i’r rhyngrwyd yn annibynadwy ar ddydd Mercher 4ydd Hydref 22:00-23:59

Mae’n bosib y bydd toriadau yng nghysylltiadau gwasanaethau rhwydwaith y Brifysgol bydd ar adegau rhwng 22:00 a 23:59 nos Fercher 4 Hydref, oherwydd gwaith brys yng Nghyfnewidfa BT Aberystwyth. Efallai na fydd yr holl wasanaethau rhyngrwyd (gan gynnwys Office365, Blackboard, Panopto, Turnitin, ac adnoddau ar-lein y llyfrgelloedd) ar gael ar y campws yn ystod y cyfnod hwn a dylid eu hystyried yn annibynadwy rhwng yr amseroedd hynny. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Rhwydwaith campws Gogerddan wedi’i adfer ar wahan i Adeilad Stapledon 09:10 25/7/2023

Mae’r broblem a oedd yn effeithio ar rhwydwaith y campws wedi’i leoli yn Adeilad Stapledon ar Gampws Gogerddan. Mae cyfarpar newydd yn cael ei osod yn Adeilad Stapledon a bydd y rhwydwaith yn cael ei adfer yno cyn gynted â bod y gwaith wedi’i gwblhau. Yn y cyfamser dylid barhau i ystyried y rhwydwaith mewn perygl.

0 12yp heddiw 14/06/2023 ni fydd mynediad at ABW, PoblAber, Pure, a Gwasanaethau APEX ar MyAdmin

O 12yp heddiw 14/06/2023 ni fydd mynediad at ABW, PoblAber, Pure, a Gwasanaethau APEX ar MyAdmin tra bo gwaith cynnal a chadw angenrheidiol yn digwydd am amser amhenodedig. Fe fyddwn yn cyhoeddi pan fydd y gwasnaethau ar gael eto ar ein gwasanaeth Twitter @aberuni_is neu ein blog diweddariadau Gwasanaethau GG.