Uwchraddio ApAber

Mae ApAber wedi cael ei uwchraddio i’r fersiwn ddiweddaraf yn ddiweddar. Golyga hyn fod yr ap yn fwy hygyrch ac y cewch well profiad wrth fewngofnodi.

Porth i fyfyrwyr yw ApAber, ac mae’n cynnig dolenni i amrywiol systemau mewn un lle. Gallwch ei ddefnyddio i gael mynediad at e-bost, y calendr, eich amserlen, balans eich Cerdyn Aber, benthyciadau llyfrgell, Blackboard, Cwestiynau Cyffredin a mwy. Mae ar gael fel ap yn siop Android neu iOS, ac mae ar gael hefyd trwy eich porwr gwe ar ffôn symudol neu ar eich cyfrifiadur ar https://ap.aber.ac.uk/.

Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech roi gwybod am unrhyw broblemau gydag ApAber, cysylltwch â ni ar gg@aber.ac.uk.