Nid yw’r Global Protect / VPN ar gael o 12:00 Dydd Gwener Ebrill 19eg 2024

Nid yw’r Global Protect/VPN ar gael o 12:00 dydd Gwener Ebrill 19eg . Mae hyn yn effeithio ar staff sy’n gweithio oddi ar y campws ac yn defnyddio gwasanaethau ABW, Astra ac Apex/MyAdmin yn ogystal â myfyrwyr sy’n defnyddio rhai adnoddau mewnol. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y gwasanaeth yn cael ei adfer.

Problemau wrth ddefnyddio Microsoft OneDrive, Sharepoint, neu Teams 20.03.2024

Wrth i chi geisio defnyddio rhai gwasanaethau Microsoft, efallai y gwelwch rybudd gan Microsoft Defender yn dweud bod y cynnwys wedi’i rwystro gan eich gweinyddwr TG, neu debyg.

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth bellach wedi nodi’r broblem, ond gall gymryd hyd at ychydig oriau i’r atgyweiriad ddod i rym ar eich cyfrifiadur. Gall ailgychwyn eich cyfrifiadur helpu i ddatrys y mater yn gynt.