Ebost mewn camgymeriad “Rydych chi wedi ymuno â’r grŵp PHISHING_SIM_TARGETED_USERS”

Mae’n bosibl bod rhai staff wedi derbyn e-bost gyda’r pwnc “Rydych chi wedi ymuno â’r grŵp PHISHING_SIM_TARGETED_USERS” heno (11 Hydref 2023). Cafodd yr e-bost yma ei anfon mewn camgymeriad gan Gwasanaethau Gwybodaeth – gallwch ei ddiystyru a’i ddileu. Ni ddylai derbyn yr e-bost yma beri unrhyw bryderon o ran diogelwch. Ymddiheurwn am unrhyw ddryswch neu bryder a achosir.

Mynediad PA i’r rhyngrwyd yn annibynadwy ar ddydd Mercher 4ydd Hydref 22:00-23:59

Mae’n bosib y bydd toriadau yng nghysylltiadau gwasanaethau rhwydwaith y Brifysgol bydd ar adegau rhwng 22:00 a 23:59 nos Fercher 4 Hydref, oherwydd gwaith brys yng Nghyfnewidfa BT Aberystwyth. Efallai na fydd yr holl wasanaethau rhyngrwyd (gan gynnwys Office365, Blackboard, Panopto, Turnitin, ac adnoddau ar-lein y llyfrgelloedd) ar gael ar y campws yn ystod y cyfnod hwn a dylid eu hystyried yn annibynadwy rhwng yr amseroedd hynny. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Gwasanaeth Argraffu Canolog ar gael yn ysbeidiol bore dydd Mawrth Medi 19eg 2023

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, bydd y gwasanaeth argraffu canolog ar gael yn ysbeidiol ddydd Mawrth Medi 19eg 06:00-12:00. Os byddwch chi’n dod ar draws problem gyda’r gwasanaeth, ceisiwch eto yn nes ymlaen. Os hoffech wneud unrhyw waith argraffu brys yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â Desg Gwasanaeth y GG https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/.Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a byddwn yn rhoi rhagor o ddiweddariadau pan fydd y gwasanaeth wedi’i adfer yn llawn (trwyr Twitter / X @aberuni_is a’n blog diweddariadau Gwasanaethau GG)

Rhwydwaith campws Gogerddan wedi’i adfer ar wahan i Adeilad Stapledon 09:10 25/7/2023

Mae’r broblem a oedd yn effeithio ar rhwydwaith y campws wedi’i leoli yn Adeilad Stapledon ar Gampws Gogerddan. Mae cyfarpar newydd yn cael ei osod yn Adeilad Stapledon a bydd y rhwydwaith yn cael ei adfer yno cyn gynted â bod y gwaith wedi’i gwblhau. Yn y cyfamser dylid barhau i ystyried y rhwydwaith mewn perygl.