Ni fydd AStRA, ABW, PURE na myadmin ar gael o 16:00 heddiw, dydd Gwener 30ain Mehefin tan 12:00 dydd Llun 3ydd Gorffennaf. Ni fydd fersiwn cleient ABW na’r fersiwn hunan-wasanaeth ar-lein (abw.aber.ac.uk) ar gael yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â nifer o raglenni myadmin (myadmin.aber.ac.uk) megis CCE a Thaflenni Amser. Dylai pob defnyddiwr sicrhau bod yr holl daflenni amser cyflogau ar myadmin yn cael eu cwblhau cyn yr amser segur hwn, a bod unrhyw dasgau ABW sydd heb gael eu cwblhau gan gynnwys cymeradwyaeth gwyliau ac unrhyw geisiadau ar gyfer archebu prynu hefyd wedi’u cwblhau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Mae staff GG yn gweithio dros y penwythnos a byddant yn ymdrechu i adfer gwasanaethau cyn gynted â phosibl. Fe fyddwn yn cyhoeddi pan fydd y gwasnaethau ar gael eto ar ein gwasanaeth Twitter @aberuni_is ac ein blog diweddariadau Gwasanaethau GG.